Mae Cymdeithas yr Amgueddfeydd (MA) yn dymuno penodi un cynrychiolydd o blith aelodau Cymru. Mae’n benodiad am gyfnod o dair blynedd. 

Mae’r MA yn sefydliad aelodaeth deinamig sy’n ymgyrchu ar ran amgueddfeydd sy’n ymwneud â’r gymuned a gweithlu bywiog a chynhwysol.

Mae cynrychiolwyr yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng yr MA a’n haelodau, gan helpu i gadw’r MA mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd yn yr amgueddfeydd a chyfathrebu â’r MA ac ar ei rhan. 

Sut byddwch chi’n elwa?

  • Lle am ddim yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas yr Amgueddfeydd bob blwyddyn, gwerth hyd at £385
  • Lle am ddim yn ein cynadleddau undydd
  • Ffioedd blwyddyn tuag at eich AMA neu FMA wedi’u talu drosoch
  • Cyfle i gyfrannu at bolisïau a phrosiectau’r gymdeithas fwyaf yn y Deyrnas Unedig o weithwyr amgueddfeydd proffesiynol.

Nid yw’r cynrychiolwyr yn cael eu talu ond gallant hawlio costau teithio, y cytunir arnynt ymlaen llaw, i gyfarfodydd cenedlaethol/rhanbarthol a chyfarfod blynyddol y cynrychiolwyr.

Anogir cynrychiolwyr i hyrwyddo’r MA ar bwyllgorau a grwpiau cenedlaethol/rhanbarthol priodol ac i drosglwyddo gwybodaeth o’r MA i’r aelodau.

Ymhlith y sgiliau a’r nodweddion angenrheidiol i fod yn gynrychiolydd mae:

  • ymwybyddiaeth gref bolisïau’r MA ar lefel leol a chenedlaethol a diddordeb yn y maes
  • sgiliau cyfathrebu da, yn cynnwys y gallu i siarad mewn digwyddiadau ac ar y cyfryngau cymdeithasol
  • y gallu a’r parodrwydd i gymryd amser o’r gwaith i fynychu cyfarfodydd
  • y gallu i gyfathrebu â’r aelodau
  • y sgiliau i gyflwyno adborth yn gryno ac yn wrthrychol.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn aelodau unigol cyfredol.

Bydd yr MA yn hysbysu’r holl gynrychiolwyr am gynlluniau, materion a gweithgareddau perthnasol a bydd yn trefnu cyfarfodydd chwe-misol i roi gwybodaeth i’r cynrychiolwyr a rhoi cyfle iddynt drafod eu rôl gyda’i gilydd a gyda’r MA. Telir treuliau am ddod i’r cyfarfod hwn.

Bydd aelod o staff yr MA yn cael ei bennu i fod yn bwynt cyswllt i chi ac i’ch cefnogi yn y gwaith.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw Dydd Llun 5 Chwefror.

Cewch wybod rhagor am gynrychiolwyr presennol yr aelodau yma.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o wahanol gefndiroedd yn cynnwys pobl ag anableddau, pobl o liw, pobl sy’n arddel hunaniaeth LHDTCRh+ a phobl o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol. 

I wneud cais, ebostiwch ffurflen gais i charlotte.eyles@museumsassociation.org.