Mae'r etholiad i'r Senedd ar 7 Mai yn gyfle gwych i ddadlau dros amgueddfeydd ac i ddylanwadu ar bolisi.
Bydd Cymdeithas yr Amgueddfeydd (MA) a chyrff eraill yn y sector yn eiriol dros amgueddfeydd yn y cyfnod cyn yr etholiad, ond mae eiriol yn rhywbeth y gallai ac y dylai pawb yn y sector fod yn ei wneud.
Dyma’n 5 prif awgrym ni ar gyfer eiriol dros eich amgueddfa chi yn y cyfnod cyn yr etholiad i’r Senedd.
Bod yn ymwybodol o'r hyn a ganiateir
Hyd yn oed os yw’ch sefydliad chi’n elusen, cewch ddadlau dros eich amgueddfa yn y cyfnod cyn yr etholiad i’r Senedd.
Er bod rhaid i elusennau fod yn annibynnol ar wleidyddiaeth plaid, mae ganddynt hawl i ymgyrchu. Cewch gymryd rhan mewn gweithgaredd ar yr amod ei fod yn hybu'ch diben elusennol, ei fod er budd pennaf eich elusen ac nad yw'n rhoi cefnogaeth i blaid wleidyddol.
Advertisement
Darllenwch ganllawiau'r Comisiwn Elusennau i ymgyrchu a gweithgarwch gwleidyddol i gael gwybod rhagor am yr hyn a ganiateir a’r hyn na chaniateir.
Yn y cyfnod cyn yr etholiad, bydd cyfyngiadau ychwanegol ar rai sefydliadau, yn cynnwys cyrff cyhoeddus anadrannol ac amgueddfeydd awdurdodau lleol. Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi canllawiau ar hyn yn nes at yr amser. Bydd gwleidyddion yn prysuro yn ystod y cyfnod hwn hefyd ac felly mae'n bwysig cynllunio ymlaen llaw.
Creu cyflwyniad byr, bachog
Pe baech chi'n cael un funud gyda lluniwr polisi, beth ddywedech chi wrthyn nhw? Beth hoffech chi iddyn nhw ei wybod am yr amgueddfa rydych chi'n gweithio ynddi neu gyda hi?
Rhowch nod clir i chi'ch hunan o ran yr hyn rydych yn ceisio'i gyflawni er mwyn eich helpu i greu'ch negeseuon allweddol. Beth mae'ch amgueddfa chi'n ei wneud yn dda iawn? Pa heriau sy'n ei hwynebu a beth allai helpu i'w datrys? Pa straeon allwch chi eu hadrodd i ddangos y gwahaniaeth y mae'ch amgueddfeydd yn ei wneud i fywydau pobl yr ardal?
Gall negeseuon allweddol cryno'ch helpu i gyflwyno'ch achos trwy sicrhau bod gan eich amgueddfa ofynion clir, gyda chysondeb ar draws y sefydliad, pwy bynnag sy'n eu cyflwyno.
Advertisement
Ar ôl llunio'ch negeseuon allweddol, gofalwch fod yr uwch-reolwyr a'r ymddiriedolwyr o’u plaid fel bod pawb yn y sefydliad yn cydweithio.
Rydym ni yn yr MA wedi rhannu ein negeseuon allweddol yn ein maniffesto ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru ac wedi'i anfon at bob un o brif bleidiau gwleidyddol Cymru.
Casglu tystiolaeth
Gall data cadarn gryfhau'ch negeseuon allweddol yn fawr. Gall astudiaeth achos dda ddangos effaith gwaith eich amgueddfa a gall data meintiol cadarn helpu i gyfleu effaith yr hyn rydych wedi'i gyflawni neu ddifrifoldeb problem.
Nid yw casglu tystiolaeth bob amser yn golygu gwneud mwy o waith. Ystyriwch beth rydych eisoes wedi'i wneud. A oes gennych adroddiadau gwerthuso gan rai a gymerodd ran yn un o’ch prosiectau yn ddiweddar? Neu a oes gennych gofnod o nifer yr ysgolion lleol a ddaeth i'ch amgueddfa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? Gall y wybodaeth hon helpu i ddangos gwerth eich amgueddfa i gymunedau'r ardal.
Nodi pwy yw’ch prif gefnogwyr
Ystyriwch pwy all gefnogi'ch achos trwy fapio'ch rhanddeiliaid allweddol. Pwy sydd â diddordeb yn eich amgueddfa? Pwy sy'n bwerus a dylanwadol?
Advertisement
Os oes gennych berthynas gryf â grwpiau cymunedol lleol, gall hyn fod yn ffordd wych o ddangos effaith ehangach eich amgueddfa ar y gymdeithas.
Mae'r MA yma i'ch cefnogi wrth i chi eiriol dros yr amgueddfa, a gallwn eich helpu i gael gwell gwrandawiad. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â llunwyr polisi a phenderfynwyr, felly cysylltwch å ni os hoffech i ni godi rhyw fater gyda nhw.
Rhoi’r gair ar led
Mae cyfathrebu’n allweddol – gofalwch rannu'ch negeseuon allweddol yn eang. Cysylltwch ag Aelodau’r Senedd a'r ymgeiswyr yn eich ardal chi i sôn wrthynt am arddangosfeydd a phrosiectau newydd ac am eich llwyddiannau. Beth am eu gwahodd i ymweld å'r amgueddfa hefyd? Mae hynny'n ffordd wych o ddangos pa mor ardderchog yw'ch amgueddfa.
Gallwch chwilio am Aelodau lleol o’r Senedd yn ôl cod post ar wefan Senedd Cymru a chewch weld pa ymgeiswyr sy’n sefyll yn etholaeth eich amgueddfa ar y wefan Pwy Alla i Bleidleisio ar Gyfer? Cyhoeddir rhestr swyddogol yr ymgeiswyr ar ôl 9 Ebrill 2026.
Yn ogystal, gallwch helpu i godi ymwybyddiaeth o waith gwych eich amgueddfa trwy gysylltu â’r wasg leol er mwyn iddynt roi sylw i'ch arddangosfeydd a chynlluniau eraill.
Contact us
We're here to help
If you have any questions about this article or advocacy work more generally, please get in touch with India Divers, policy and campaigns lead, via india@museumsassociation.org.